Title: Ysgrifennu Ymson
1Ysgrifennu Ymson
2Rhaid ysgrifennu yn amser presennol y ferf...
3Tyd Dave maen rhaid i chdi ennill y gem yma
heddiw, go on DOS. O! na reff-a-ri. PENALTI!
Be? Naddo tad, fasa Dave ddim yn deifio, dim
ffiars o beryg, dim heb ddwr odano fo beth bynnag
4Dwi'n siarad efo fi fy hun ac yn ysgrifennu'r
geiriau ar bapur
5O! Na! Fy ngewin, yli be ti di neud rwan, chdi
a dy ffwtbol. Dwi wedi talu miloedd i gael gwneud
fy ngewinedd yn sbesial ar gyfer y gêm yma.
Llanast David, dyma be di llanast go iawn.
Be syn digwydd rwan? Na Brooklyn, well i ti
beidio colli Vimto ar y crys Versace na.
6Mewn ymson dwi'n defnyddio iaith lafar bob dydd.
7Cmon hogia! Be? Be syn digwydd? Off side.
No way. Be di off-side? Wyt tin gwybod Elton?
Nagwyt maen siwr. Sgen im clem chwaith. Be?
Beks o flaen y chwaraewr pan yn cicior bêl? Wel
oedd siwr iawn, dwi wedi dweud wrtho fo am beidio
mynd tu ôl i neb. Rhaid iddo fo fod o flaen pawb,
maen bwysig, neu fydd y camerau teledu ddim yn
gallu canolbwyntio arno fo.
8Rhaid cyflwyno teimladau a syniadau am eich
sefyllfa bresennol, y gorffennol, y dyfodol, am
eich teulu, ffrindiau ...
9Colli? O Na! Ond be ddudith pawb? Alla im mynd
allan i nunlla rwan am fis. Bydd pawb yn siarad
amdanon ni. Bydd rhaid i mi aros yn y ty ma.
Diolch byth fod gen i sun shower a digon o gel
gwallt a gym a phwll nofio a .. ond does dim
bwyd yn y cypyrddau Dim ots, mae digon o duniau
ir plant a Dave, mi wna i jest byw ar aer, fel
arfer. Dwi angen colli pwysau i ffitio mewn ir
ffrog newydd Gucci na beth bynnag
10Pethau eraill i'w cofio wrth ysgrifennu ymson...
- Disgrifiwch yr ystafell neur lle syn gefndir i
chi. - Defnyddiwch eich dychymyg i fynd i fewn i feddwl
eich cymeriad a mynegwch deimladaur cymeriad. - Ysgrifennwch mewn paragraffau a chofiwch
atalnodin ofalus.