Title: Oes Fictoria
1Oes Fictoria
Sut fywyd oedd gan y plant ysgol yn ystod yr oes?
2Nod y Wers Deall a chymharu y gwahaniaethau
rhwng bywyd ysgol plant Oes Fictoria a phlant
heddiw.
3TALU AM GAEL FYND IR YSGOL
Cyn 1891 byddain rhaid i blant ysgol wneud yn
siwr, cyn gadael cartref bob bore Llun, fod
ganddyn nhw ddigon o arian i dalu am gael
mynychur ysgol.
Roedd yn rhaid ir plant dalu rhwng 2d (1c) a 12d
(5c) yr wythnos.
Ond nid oedd rhai rhieni yn gallu fforddio talu,
a byddai rhai yn cadw eu plant or ysgol.
Beth yw eich barn am hyn? Oes rhaid i chi dalu
am bethau yn yr ysgol heddiw? Trafodwch yn eich
grwpiau.
4Disgybl Athro ac Athrawon
Yn ystod y cyfnod hwn, byddai dosbarth yn aml yn
cynnwys cymaint a hanner cant a rhagor o blant.
Roedd hyn yn ormod i un athro, felly cai rhai or
plant hyn, tua tair ar ddeg oed, eu dewis i helpu
i ddysgur bechgyn ar merched iau.
Rydw i yn llym iawn gydar plant.
Disgybl athrawon oedd y rhain.
Roedd disgwyl iddyn nhw gyrraedd yr ysgol tua
saith or gloch y bore a chael eu gwersi cyn ir
plant gyrraedd
Hoffech chi fod yn ddisgybl athro?
5Y Dril
Un o hoff wersir rhan fwyaf o blant oedd y
Dril. Roedd yn gyfle iddyn nhw fynd i iard yr
ysgol i wneud ymarferion . Dyma lun o blant ym
yn ymarfer dril ar iard yr ysgol.
6Yr Ystafell Ddosbarth
Maer ffotograff nesaf yn dangos ystafell
ddosbarth Oes Fictoria.
7Rhestrwch yr hyn sydd iw weld yn eich ystafell
ddosbarth chi ar hyn sydd iw weld yn ystafell
ddosbarth Oes Fictoria.
8Llyfr Cosb
Mewn ysgol ar ddiwedd Oes Fictoria, fel heddiw,
roedd llenwir gofrestr yn bwysig. Byddair plant
a fyddain methu dod ir ysgol yn cael ymweliad
oddi wrth y swyddog arbennig y Whipper in. Os
nad oedd rheswm da dros fod yn absennol, byddair
plentyn yn cael cosb.
Dyma ddarn o lyfr cosb un ysgol. Maen rhestru
enwaur bechgyn yn unig, ond cai merched y gansen
hefyd.
9Gwobrwyo
Nid cosbi oedd yr unig ffordd o geisio cael plant
i ddod ir ysgol yn gyson. Bydden nhwn derbyn
gwobrau hefyd. Rhoddair ysgolion wobrau ir
plant a oedd yn bresennol yn gyson.
Dymar gwobrau a gair plant am bresenoldeb cyson
mewn ysgol yn y Bari.
Blwyddyn 1af llyfr Ail flwyddyn llyfr 3edd
flwyddyn medal 4edd flwyddyn set
geometreg 5ed flwyddyn oriawr arian
10Ydych chin meddwl bod rhoi gwobraun ffordd dda
o gael plant i ddod ir ysgol?
Meddylwich am resymau o blaid ac yn erbyn hyn.
Yn Erbyn
O Blaid
11Roedd y disgyblion yn treulio llawer ou hamser
yn.
darllen
ysgrifennu
a rhifyddeg
Dyma rhai or adnoddau roeddent yn defnyddio.
12Dyddiau Hapusaf Eich Bywyd?
Ar Ă´l dysgu am fywyd ysgol ar ddiwedd Oes
Fictoria, ydych chin meddwl y byddair plant a
arferai fynd ir ysgol gan mlynedd yn ol wedi
cytuno?
13- Dychmygwch eich bod yn ddisgybl yn un or
Ysgolion Bwrdd yn y 1890au. - Gan ddefnyddior wybodaeth a gawsoch yn y wers,
ac unrhyw ffeithiau eraill sydd gennych,
ysgrifennwch ddyddiadur am ddiwrnod ysgol. - Yn eich dyddiadur, efallai yr hoffech son am
- Yr ystafell ddosbarth
- Yr athrawon
- Y gwersi
14Safwe Oes Fictoria
15Ydyn ni wedi cyrraedd nod y wers?
Nod y Wers Deall a chymharu y gwahaniaethau
rhwng bywyd ysgol plant Oes Fictoria a phlant
heddiw.
16Chwilair
Dril Abacws Disgybl Cofrestr Darllen Rhifyddeg Ysg
rifennu Gwnio Cansen Llechen Marblis Chwip a thop