Title: Ysgrifennu ymson
1Ysgrifennu ymson
- Nod y wers
- Dysgu beth yw ffurf ymson.
- Deall hanfodion ymson.
- Ysgrifennu ymson mewn gwers ddiflas
2Beth ydy ymson?
- Mewn ymson rydych yn dweud beth syn mynd drwy
eich meddwl. Mae angen nodi eich teimladau gan
dynnu sylw at yr hyn syn digwydd och cwmpas. - Er enghraifft
- Rydw i wedi blinon lân..
- Maer wers hon yn ddiflas ofnadwy.
3Ymson- Dwy reol.
- Ysgrifennir ymson yn y person cyntaf
- 1. Rydw in drist
- 2. Rydw in oer
- 3. Rydw i wedi blino
- Ysgrifennir ymson yn y presennol
- 1. Rydw in teimlon hapus.
- 2. Mae hin oer.
- 3.Rydw in darllen yn dawel.
-
- (NAWR!)
4Dyfalwch ymson pwy.
Gôl! Dw i wedi sgorio or diwedd. Gobeithio bod
fy ngwallt yn edrych yn dda gydar holl dorf
yman edrych arna i. Pam dw in gwastraffu
famser yn chwaraer hen gêm dwp ma? Hoffwn i
fod adre nawr gyda Victoria ar bechgyn.
Dw i eisiau mynd adre at Dad a fy ffrindiau. Does
dim lle yma i nofio. AWWW! Yr hen wydr yna. Or
Diwedd amser cinio, dw i bron â llwgu!
Anobeithiol! Does dim gobaith gyda hon i fopior
llawr ym McDonalds heb sôn am gael gyrfa fel
cantores. Pryd alla i fynd adre or twll yma?
Beth? Beth mar hen ffwl Louis yn ei wneud- allwn
ni ddim ag anfon hon drwodd. Mae angen coffi cryf
arna i- nawr!
5Beth syn gwneud ymson da?
- Creu awyrgylch- lle ydych chi? Beth syn digwydd
och cwmpas? - Gorffennol/ presennol/ dyfodol- Er bod ymson yn
cael ei ysgrifennu yn y presennol maen bwysig
sôn am y dyfodol ar gorffennol hefyd - ee, Rydw in teimlon nerfus yn union fel pan
oeddwn yn sefyll ar lwyfan yr eisteddfod. - Dw in edrych ymlaen at ryddid y penwythnos.
- Cwestiynau rhethregol-
- Tybed beth fydd i swper heno?
- Be sydd ar y teledu nawr?
- Ebychiadau-
- O na! Pam fi?
-
6Jig sô!
- Gweithiwch mewn parau i roir ymson mewn trefn
addas.
7Yr ymson mewn trefn
- Bla, bla bla a mwy o bla! Sut all y dyn ma alw
ei hun yn athro? Ron in gwybod bod Ffiseg yn
ddiflas ond hon ywr wers fwyaf diflas ohonyn nhw
i gyd. Deuddeg or gloch a hanner awr arall tan
ginio. Dw i bron â llwgu. Sgwn i be fydd i ginio?
Sglods gobeithio, neu bitsa. Braf yw byd y sawl
sydd adre nawr yn gwylio This morning. O na!
cwestiwn.i fi! Be wna i? Rhedeg am y drws neu
gyfaddef mod i heb wrando ar yr un gair a ddaeth
o geg yr hen ffwl. Ataliad ETO. Dim cinio am
hanner awr arall. Pam fi Duw? - Tanlinellwch yr hanfodion yn yr ymson hwn.
8Eich teimladau mewn gwers ddiflas ofnadwy.
Teimladau
Allwch chi ychwanegu rhagor?
9Cofiwch!
- Paragraffwch.
- Gofynnwch gwestiynau rhethregol.
- Defnyddiwch ansoddeiriau a chymariaethau.
- Defnyddiwch frawddegau hir a byr.
- Defnyddiwch idiomau- teimlaf fel rhoir ffidil yn
y to. - Creu awyrgylch- maen dywyll dywyll.
- Ail-adrodd- i wneud y darn yn ddramatig.
- Agoriad syml syn tynnu sylw- pam fi?
- Clo da i gloir darn yn daclus.
10Gwirior gwaith.
Ydw i wedi.?
- Paragraffu.
- Gofyn cwestiynau rhethregol.
- Defnyddio ansoddeiriau a chymariaethau.
- Defnyddio brawddegau hir a byr.
- Defnyddio idiomau- teimlaf fel rhoir ffidil yn y
to. - Creu awyrgylch- Maen dywyll dywyll.
- Ail-adrodd.
- Ysgrifennu agoriad syml syn tynnu sylw.
- Ysgrifennu clo da syn cloir darn yn daclus.