Title: COMMUNICATIONS
1 Uned TGCh 1 Rhwydweithiau
2CYFATHREBIADAU
- Rhesymau dros dyfiant rhwydweithiau
- Lleihad mewn costau meddalwedd a chaledwedd yn eu
gwneud yn fwy cyffredin. - Datblydiad y swyddfa di-bapur, gyda rheolwyr yn
defnyddio prosesyddion geiriau, systemau ffeilio
a.y.y.b. ar eu desgiau - Angen rheolwyr i gael at wybodaeth gyfredol a
chywir - Datblygiad cyfathrebiadau ffôn a lloeren syn
safonol a dibynadwy. - Maen dod yn bwysicach i ddefnyddio dulliau
newydd o drosglwyddo gwybodaeth yn gyflym ac yn
ddibynadwy.
3Diffiniadau
- Beth yw Rhwydwaith?
- Casgliad o gyfrifiaduron cysylltiedig (gan geblau
rhwydwaith) yw rhwydwaith. Gallant felly
gyfathrebu gydai gilydd. Mae gan bob gorsaf
gwaith cerdyn datgodio trwy hyn fe gysylltir y
cêbl âr cyfrifiadur. Maer cerdyn yn cael ei
weithredu gan feddalwedd y gyrrwr cerdyn. - Cyfrifiadur arunig ywr term am gyfrifiadur sydd
heb ei gysylltu â rhwydwaith.
4Rhwydweithiau cyfrifiadurol
- Mae yna ddau fath o rwydwaith gyfrifiadurol
- Rhwydwaith Ardal Leol (LAN) - maer
cyfrifiaduron i gyd yn yr un ystafell, neu mewn
adeiladau gwahanol ar un safle wediu cysylltun
barhaol gan geblau arbennig..
- Rhwydwaith Ardal Eang (WAN) - maer
cyfrifiaduron wedi eu gwasgaru ar draws ardal
ddeaearyddol eang nid ydynt wediu cysylltu yn
barhaol maent yn defnyddio gwirfau ffôn,
trosglwyddyddion radio neu gysylltiadau lloeren.
5Manteision ac anfanteision rhwydweithiau
- Manteision
- Gellir rhannu argraffyddion
- Gellir rhannu rhaglenni
- Gellir rhannu data
- Gall ddefnyddwyr gyfathrebu gydai gilydd
- Gall ddefnyddwyr e-bostio
- Nid oes rhaid defnyddio yr un cyfrifiadur.
- Anfanteision
- Mae rhwydweithiau yn gostus iw prynu au cynnal
- Mae pawb yn cael eu heffeithio os yw rhwydwaith
yn torri - Mae angen camau digelwch arbennig i arbed
defnyddwyr rhag defnyddio rhaglenni a data heb
awdurdod.
6Anfanteision Rhwydweithiau Ardal Leol
Nid ywn newyddion da i gyd. Rhaid ir sefydliad
dalu staff technegol i gynnal y rhwydwaith. Mae
angen ychwanegu neu ddileu cyfrifon defnyddwyr
wrth i bobl ymuno neu adael sefydliad. Am fod
data defnyddwyr wedi ei storio ar y disgiau caled
yn y gweinyddion mae angen cadw copïau wrth-gefn
cyson byddai cryn gythrwfwl pe collwyd y data.
Mae rhwydweithiau yn methu o bryd iw gilydd, ac
yna ni all neb yn y sefydliad ddefnyddior
cyfrifiaduron. Wrth i fwy o bobl logio ymlaen ir
rhwydwaith, rhaid ir gweinyddion rannu eu hamser
rhyngddynt efallai bydd y system yn arafu. Mae
defnyddwyr yn anghofio eu cyfrineiriau ac yn
methu logio ymlaen, syn achosi gwaith ychwanegol
i Reolwr y Rhwydwaith. Mae gan bob defnyddiwr le
penodol ar y ddisg galed, yn aml maent yn mynd y
tu hwnt ir cyfyngiadau ac yn galw am ragor o le.
Mae rhai defnyddwyr yn dueddol o greu pob math o
ddrygioni gan hacio i ardaloedd defnyddwyr
eraill, llwytho neu osod meddalwedd heb ganiatâd,
dwyn perifferolion, tagur system ag e-bostion,
anghofio logio i ffwrdd a.y.y.b. Gall ddiogelwch
achosi cryn drafferth.
7Rhyngrwyd, Mewnrwyd ac Allrwyd
- Rhwydwaith Ardal Eang ywr Rhyngrwyd - mewn
gwirionedd, maen gasgliad anferth o rwydweithiau
wediu cysylltu drwy fynedfeydd - maer rhain yn
gwneud ir system weithio fel un rhwydwaith
anferth. - Mae nifer o rwydweithiau mewn diwydiant, busnes,
addysg uwch a swyddfeydd llywodraethol wediu
cysylltu âr we, er y gall unrhyw un gysylltu gan
ddefnyddior meddalwedd ar caledwedd priodol a
modd o gael at ISP (Internet Service Provider
)...e.e. Freeserve, AOL, Demon a channoedd
eraill. - Gall ddefnyddiwr gael gwybodaeth am unrhyw beth.
Mae yna gyfarpar chwilio syn galluogi chwilior
We Fyd-Eang am unrhyw destun, ac mae gan bob
tudalen gysylltiadau i dudalennau eraill
a.y.y.b... - - Mae hefyd yn bosib lawr lwytho meddalwedd a
ffeiliau (e.e. graffeg NASA) - - byrddau bwletin (fforymau) neu grwpiau
newyddion, lle gallwch adael negeseuon neu
gyfathrebun uniongyrchol gyda defnyddwyr eraill. - Mae busnesau yn creu gwefannau ar y we
oherwydd... - ..gallant hysbysebu. Maen galluogi pobl i gael
gwybodaeth am yr hyn maent yn ei wneud ai
werthu. - ..gall bobl e-bostio ag ymholiadau, archebion,
gofyniadau - ..gallant gyrraedd cynulleidfa ryngwladol
- Gweler y nodiadau diweddarach
8- Mewnrwyd
- Sefydlir mewnrwyd yn gyfan gwbl o fewn LAN.
Gellir storio a chael mynediad at dudalennaur we
o unrhyw le ar rwydwaith gellir hefyd ddanfon
e-bostion yn fewnol o fewn y LAN. - Gall gwmni sefydlu mewnrwyd a galluogir
gweithwyr i ddanfon negeseuon at ei gilydd a
defnyddio porwr i gyrraedd gwybodaeth y cwmni a
gedwir fel tudalennau gwe. Gellir ei ddefnyddio
hefyd ar gyfer hyfforddi staff. - Allrwyd
- Os yw cwmni yn caniatáu mynediad or tu hwnt iw
fewnrwyd, yna maen dod yn allrwyd. Ceir mynediad
fel arfer trwy fur gwarchod (meddalwedd sydd ond
yn caniatáu mynediad ir data i ddefnyddwyr â
chaniatâd).
9Gwarchodaeth Rwydwaith
Mae yna dri math o warchodaeth i rwydwaith
gwarchodaeth CORFFOROL, gwarchodaeth MYNEDIAD a
gwarchodaeth DATA.
- Mae Gwarchodaeth Corfforol yn diogelur
galedwedd - Rhifau cyfresol Cadw cofnod o bob rhif
gyfresol. - Larymau Gwarchod yr ystafell gyfrifiadurol gyda
larymau. - Drysau a ffenestri Iw cloi pan nad ywr
ystafell yn cael ei defnyddio. - Diogelwch rhag tân Defnyddio drysau tân a
larymau tân
10- Diogelwch rhag trosedd
- Hacio - Hierarchiaeth Cyfrineiriau
- Dilysu ac awdurdodi ID
-
- Amgryptio
- codio un pen
- danfon gwybodaeth ar ffurf wedi ei sgramblo
- datgodio ar y pen arall
- rhaid bod gan y ddau ben godiau.
-
- Cardiau smart
- Cardiau rhaglenadwy i reoli mynediad i
ystafelloedd
11- Mae Gwarchodaeth Mynediad yn cyfyngu ar y bobl
gall ddefnyddio rhwydwaith - Rhaid rhoi enwau defnyddiwr a chyfrineiriau i bob
defnyddiwr â chaniatâd. Bydd hyn yn cyfyngu ar
ddefnydd or rhwydwaith heb awdurdod. - Ni ddylai fod modd dyfalu cyfrineiriau a ni
ddylid rhannu cyfrineiriau gyda neb nau
hysgrifennu. - Dylai ddefnyddwyr newid eu cyfrineiriau yn
rheolaidd. - Gellir cwtogi ar ddefnydd diawdurdod trwy roi
hawliau gwahanol i ddefnyddwyr gwahanol. Er
enghraifft, rhoddir mynediad llawn i reolwyr y
rhwydwaith, tra bydd defnyddwyr eraill wediu
cyfyngu i ddefnyddio rhaglenni megis prosesyddion
geiriau.
12Y rhannau syn gwneud rhwydwaith
Nid mater o gysylltu cyfrifiaduron gyda cheblau
yn unig yw rhwydweithio. Dyma rai cydrannau sydd
iw cael mewn rhwydweithiau fel arfer.
Meddalwedd Gall feddalwedd rhwydwaith fod yn rhan
o system weithredu (e.e. Windows98, Windows XP)
neu gall fod yn feddalwedd arbennig ar gyfer
rheoli rhwydwaith.
Ceblau Defnyddir ceblau cysylltu fel arfer i
gysylltu dyfeisiau mewn rhwydwaith, er y
cysylltir rhai rhwydweithiau gyda thonnau radio
neu donnau meicro.
13Cysylltyddion Defnyddir cysylltyddion i gysylltu
ceblaur rwydwaith â therfynellau neu dyfeisiau
eraill.
Cardiau Rhyngwyneb Rhwydwaith (NICs) Rhaid cael
dyfais a elwir yn Gerdyn Rhwyngwyneb Rhwydwaith
er mwyn defnyddio cyfrifiadur fel terfynell ar
rwydwaith. Mae NIC yn edrych fel bwrdd cylchedd
ac yn ffitio i un or prif gysylltyddion ar y
prif fwrdd cylchedd (y Famfwrdd/Mother Board) y
tu mewn ir cyfrifiadur Mae gan NCIs
gysylltyddion arnynt ar gyfer ceblaur rhwydwaith.
14Trawsyrru data
- Cysylltiadau cyfathrebu
- Rhaid bod yna gysylltiad cyfathrebu er mwyn i
gyfrifiaduron gyfathrebu gydai gilydd. - Nid ceblau ywr cysylltiadau hyn o reidrwydd nid
yw wastad yn bosib iw gweld au cyffwrdd. - Gall y cysylltiadau fod yn donnau radio,
meicrodonnau neu is-goch.
15Cyfryngau Cêbl
Cêbl metel Mae gan geblau metel wifrau metel
(copr fel arfer). Maer data yn cael eu yrru ar
hyd yr rhain, fel arfer ar ffurf cerrynt
amrywiol. Ceblau ffibr opteg Mae ceblau ffibr
opteg yn gweithio wrth drawsyrru data fel cyfres
o bylsau golau ar hyd ffibr gwydr tenau. Mae un
sypyn o wifrau yn cario negeseuon mewn un
cyfeiriad, tra bod sypyn arall yn cario negeseuon
yn ôl yn y cyfeiriad arall. Mae opteg ffibr yn
ddefnyddiol ar gyfer trawyrru data oherwydd maent
yn gyflym a nid ydynt yn cael eu heffeithio gan
ymyrraeth fel ceblau metel.
16Cyfryngau di-wifren
Tonnau radio Maer data yn cael ei drawsyrru trwy
gyfes o donnau radio. Meicrodonnau Mae ffonau
symudol yn defnyddio meicrodonnau. Maent yn
ddelfrydol ar gyfer cysylltu cyfrifiaduron mewn
dau adeilad syn gymharol agos at ei gilydd. Mae
systemau lloeren hefyd yn defnyddio
meicrodonnau. Is-goch Mae hyn yn gweithio yn
eithaf tebyg i reolydd teledu. Ni all signal
is-goch deithio yn bell iawn mae hyn yn cyfyngu
ar eu defnydd. Feu defnyddir yn aml y gysylltu
gliniadur ac argraffydd fel y gellir danfon data
rhwng y ddau heb geblau.
17Y Rhyngrwyd
- Maer Rhyngrwyd yn cysylltu PCs preifat,
rhwydweithiau cyhoeddus a rhwydweithiau busnes
gan ddefnyddio gwifrau ffôn mewn un rhwydwaith
byd-eang anferth. Mae hefyd yn galluogi
defnyddwyr cyfrifiaduron i rannu a chyfnewid
gwybodaeth gydai gilydd o unrhyw le yn y byd. - Mae gwybodaeth ar y we yn dod mewn sawl fformat
gwahanol e.e. ffeiliau testun e-bost syml,
cerddoriaeth, fideo, meddalwedd cyfrifiadurol.
18Cysylltu âr we
- Mae angen cyfrifiadur â modem a llinell ffôn.
- Maen bosib cael cysylltiad cyflymach gyda math
arbennig o ffôn digidol a elwir yn linell ISDN
nid oes angen modem ar hwn. - Gellir prydlesi llinell arall yn arbrnnig ir we.
- Mae llinell brydles yn linell ffôn breifat syn
agored 24awr y dydd. - Band-eang mae llinellau digidol cyflym iawn ar
gael ond maent yn gostus. - Mae llwybrydd yn ddarn arbennig o feddalwedd syn
cydlynnur cyfnewid negeseuon rhwng cyfrifiaduron
a gweddil y Rhyngrwyd. - Dod o hyd i Ddarparwr Gwasanaeth y Rhyngrwyd
(Internet Service Provider (ISP))
19Y We Fyd-eang (WWW)
- Y we fyd eang yw rhan helaethaf y rhyngrwyd
- Mae tudalennau o wybodaeth yn dechrau gyda
hafan (home page) - Cysylltir tudalennau gydai gilydd trwy
ddefnyddion hyperdestun - Cynhyrchir hyperdestun trwy ddefnyddio iaith
clustnodi hyperdestun (Hypertext Mark-up language
neu HTML)
20Porwr
- I bori, neu syrffio, ar y we, mae angen rhaglen
bori - Mae Microsoft Internet Explorer a Netscape
Navigator yn defnyddio peiriannau chwilio i
chwilio am wybodaeth trwy ddefnyddio
allweddeiriau.
21URL
- Uniform Resource Locator
- Maer rhain yn rhoi lleoliadau safleoedd unigol
ar y We Fyd-Eang - Maer rhan fwyaf yn cychwyn gyda http//www.
- Maent yn aml yn datgelur wlad maer wefan wedi
ei lleoli, e.e. .uk ar gyfer y Deyrnas Unedig.
Maent hefyd yn dangos os ywr wefan yn fasnachol
gyda naill ai .co neu .com, sefydliad
llywodraethol gyda .gov, neu sefydliad academaidd
gyda .ac
http// - defnyddio iaith clustnodi
hyperdestun www. - y we fyd-eang
demon. - enwr parth (enwr perchennog ar math
o wefan) Com - parth
lefel-uchaf, sefydliad neu wlad
/index - tudalen arbennig
22Gwasanaethau sydd ar gael ar y we
23Siopa ar-lein
- Galluogi defnyddwyr y we i brynu nwyddau a
gwasanaethau ar-lein unrhyw bryd, ddydd a nos,
heb orfod teithio i unrhyw le a heb y drafferth o
siopa mewn siopau prysur - Mae rhai cwmnïau yn cynnal eu holl fusnes dros y
we ac yn cyrraedd marchnad fyd-eang.
Ebay
24Manteision siopa ar-lein ?
- Nid oes rhaid talu costau busnes arferol megis
rhent a chyflog. - Gellir cynnig amrywiaeth ehangach o nwyddau
oherwydd gellir eu harchebu or cyflenwyr yn ol
yr angen, yn hytrach cadw nwyddau ar silffoedd
drwyr amser. - Nid oes arian wedi ei glymu mewn stoc sydd heb eu
gwerthu, na chwaith yn cael ei wastraffu ar
nwyddau amhoblogaidd. - Gellir casglu data am gwsmeriaid au harferion
prynu yn uniongyrchol gellir defnyddior data
yma i gynnig gwasanaeth llawer mwy personol syn
unol â gofynion ac anghenion cwsmeriaid.
25Anfanteision siopa ar-lein?
- Fel arfer, mae angen mynedu rhifau cardiau debyd
neu gredyd cyn cwblhau trafodion ar-lein. Mae yna
beryg y gall y rhifau hyn gael eu dwyn gan hacwyr
au defnyddio ganddynt i wneud trafodion heb
awdurdod. Maer defnydd o eiriau cytûn, gwefannau
taliad diogel, amgryptio a chardiau smart yn
gallu helpu diogelu rhag hyn. - Gall droseddwyr sefydlu gwefannau ffug yn cynnig
nwyddau a gwasanaethau, yn aml gan ddefnyddio enw
cwmni go-iawn. Gall hyn arwain pobl i wario arian
ar nwyddau/gwasanaethau na fyddant fyth yn eu
derbyn. Mae hyn hefyd yn rhoi enw drwg ir
cwmniau gwreiddiol. - Mae casglu gwybodaeth am gwmnïau maent yn
cystadlu yn eu herbyn yn haws i fusnesau gallant
chwilio trwy wefannau cystadleuwyr yn hawdd. Mae
hyn yn ei gwneud hin anoddach i aros yn
gystadleuol.
26Systemau archebu ar-lein
- Galluogi defnyddwyr y we i ymchwilio, a hefyd i
archwilio, pethau megis - Tocynnau ir theatr, sinema neu gyngherddau
- Seddi ar fysiau, trenau ac awyrennau
- Ystafelloedd mewn gwestai
- Yn y bôn, gwefan y gellir ei defnyddio i gyrraedd
cronfa ddata pell yw system archebu ar-lein - Manteision
- Ni ddylai archebu gormod ddigwydd
- Gellir cynnig dewisiadau eraill os nad ywr
cyntaf ar gael - Mynediad at gronfa ddata ehangach o wybodaeth
27? Peryglon defnyddior we ?
- Hacwyr
- Meddalwedd mur gwarchod
- Hierarchaeth cyfrineiriau
- Firysau
- Feu lledir yn aml trwy e-bost
- Rhaglenni canfod a dileu firysau
- Defnydd anweddus a phedoffilyddion mewn siopau
siarad - Meddalwedd i rwystro mynediad i wefannau
- Goruchwyliaeth oedolion
- Gwasanaeth hidlo gwefannau gan yr ISP
28Manteision defnyddior we
- Cyfathrebun hawdd gyda phobl eraill
- Adnodd dysgu gwerthfawr oherwydd bydd angen
sgiliau defnyddior we ar gyfer swyddi yn y
dyfodol - Galluogi pobl i weithio o adref gan ddefnyddio
rhwydweithiau cyfrifiadurol (teleweithio) - Gellir cael mynediad at swm anferth o wybodaeth
- Gellir cael mynediad at wybodaeth gyfoes ar-lein
yn syth heb orfod aros nes ei gyhoeddi - Mae cyhoeddi dogfennau ar y we yn arbed papur
- Adnodd gwerthfawr i gwmnïau hysbysebu a rhedeg
busnes
29Anfanteision defnyddior we
- Gallai llawer or wybodaeth fod yn amherthnasol
neun anghywir, oherwydd nid ywr wybodaeth yn
cael ei wirio - Mae llawer o wybodaeth anweddus, megis
pornograffi, ar gael yn hawdd - Gellir rhyng-gipio negeseuon ar draws y we yn
hawdd au cam-ddefnyddio gan bobl eraill - Gellir creu biliau ffôn mawr yn hawdd
- Gall wario gormod o amser ar y we arwain at
ddiffyg cydweithredu wyneb-yn-wyneb gyda phobl
eraill a cholli sgiliau cymdeithasol - Mae bod ar-lein yn cynyddur peryg y gall hacwyr
neu firysau achosi difrod ir cyfrifiadur