Title: O ddrylliog ddinas Bethlehem
1O ddrylliog ddinas Bethlehem
2Mae gen i fwy o fywyd iw fyw
3Bethlehem heddiw
Prin ywr gobaith heddiw yn Ninas Ddrylliog
Bethlehem Ar draws Israel a thir meddiant
Palestina mae llawer o blant yn byw mewn ofn a
dychryn oherwydd y trais ar rhyfela.
4Bethlehem heddiw
Lleolir tref hynafol Bethlehem ar y Lan
Orllewinol, tua phum milltir o Jerwsalem
(Meddianwyd y Lan Orllewinol, gan gynnwys
Dwyrain Jerwsalem a Llain Gasa gan Israel ers
1967)
5 Mudiad y YMCA
Maer YMCA, partner Cymorth Cristnogol yn cynnal
rhaglenni datblygu ar y Lan Orllewinol, yn ardal
Beit Sahour. Maen cynnig gwasanaeth cynghori, ac
adferiad corfforol a hyfforddiant swyddi ar gyfer
y rhai ag anafwyd yn feddyliol ac yn gorfforol
gan y gwrthdaro.
6Mae Noor Rabia yn 17 oed. Collodd ei law dde mewn
ffrwydrad tair blynedd yn ôl Collodd ei hunan
hyder yn llwyr a gadawodd yr ysgol.
7Diolch ir YMCA, anfonwyd Fatin al Shoppi i
gynghori Noor. Yn ystod y dair blynedd ddiwethaf
cafodd gymorth i fedru delio âi golled, dychmygu
dyfodol gwahanol, a derbyn arian i brynu llaw
brosthetig.
8Gobaith am ddyfodol newydd Gwnaeth Fatin i mi
weld fod gen i fwy o fywyd iw fyw mwy o
obaith. Bellach, dychwelodd Noor ir ysgol ac
maen gallu paratoi yn well ar gyfer ei
ddyfodol.
9Beth am estyn cymorth i blant tebyg i Noor y
Nadolig hwn?
Gall 8.50 dalu am sesiwn grwp therapi celf i
blentyn syn dioddef trawma. Gall 25 ariannu
diwrnod o hyfforddiant galwedigaethol yn y grefft
o gerfio pren olewydd, i berson anabl. Gall 55
gynnig sesiwn deuddydd o gynghori i blentyn a
brofodd trawma seicolegol.
10- Arwain ni i Fethlehem Arglwydd.
- Dangos etor baban Iesu Brenin y Brenhinoedd
- mewn preseb.
- Atgoffa ni dy fod wedi dod atom, heb rwysg,
- ond mewn cariad tawel, afrad yn
- sibrwd chwyldro rhyddid rhag gormes a newydd da
ir tlawd. - Arwain ni i fannau drylliedig defnyddia ni i
- adeiladu gobaith a gweithio iw trawsnewid.
- Amen.
11www.christianaid.org.uk/christmas