Title: MAE ENW IESU GRIST I MI
1MAE ENW IESU GRIST I MI Mor fwyn a llais o'r
nef, Mae'n gwneud i'm henaid roddi llam - Ei
hyfryd enw Ef. O! Enw'r Iesu, hyfryd yw Enw
fy Mhrynwr i a'm Duw Enw sy'n gwneud i'm
lawenhau Yw hyfryd enw Crist.
2Mae'n sôn am gariad Un a ddaeth I farw i'm
rhyddhau, Mae'n dweud am werthfawr waed y
groes, Yn hwn caf lawenhau. O! Enw'r Iesu,
hyfryd yw Enw fy Mhrynwr i a'm Duw Enw sy'n
gwneud i'm lawenhau Yw hyfryd enw Crist
3Mae'r Enw hwn yn sôn am Un A gydymdeimla'n
driw, Sy'n gwybod am fy mlinder dwfn Yn well na
neb a glyw. O! Enw'r Iesu, hyfryd yw Enw fy
Mhrynwr i a'm Duw Enw sy'n gwneud i'm
lawenhau Yw hyfryd enw Crist.
4Iesu yw'r Enw a garaf i, Yr Un sy'n fêl i'm
clyw, Nid oes ar ddaear faith i gyd All ddweud
gwerth cymaint yw. O! Enw'r Iesu, hyfryd
yw Enw fy Mhrynwr i a'm Duw Enw sy'n gwneud
i'm lawenhau Yw hyfryd enw Crist.
5Mae'r Enw hwn fel ennaint drud Ar lwybrau garw
gwyw, A Hwn fydd yno gyda mi Wrth ddringo at fy
Nuw. O! Enw'r Iesu, hyfryd yw Enw fy Mhrynwr
i a'm Duw Enw sy'n gwneud i'm lawenhau Yw
hyfryd enw Crist.
6Ac yno, gyda'r oll a ddaeth, Drwy'r gwaed, yn
rhydd o boen, Caf ganu eto newydd gân I Enw
Iesu'r Oen. O! Enw'r Iesu, hyfryd yw Enw fy
Mhrynwr i a'm Duw Enw sy'n gwneud i'm
lawenhau Yw hyfryd enw Crist.
F. Whitfield cyf. Peter R Hallam Hawlfraint c
1946 Salvationist Publishing Supplies.
Gweinyddir gan CopyCare.