Y Gymuned a Diwylliant - PowerPoint PPT Presentation

1 / 11
About This Presentation
Title:

Y Gymuned a Diwylliant

Description:

Gesellschaft cysylltiad a nifer mwy o bobl ond cysylltiad a rhyngweithiad llai ... berthyn neu gydlyniad, ac roedd Gesellschaft yn golygu 'cymdeithas' o werthoedd ... – PowerPoint PPT presentation

Number of Views:47
Avg rating:3.0/5.0
Slides: 12
Provided by: davidk109
Category:

less

Transcript and Presenter's Notes

Title: Y Gymuned a Diwylliant


1
Y Gymuned a Diwylliant
2
Diffiniadau o Gymuned
  • ffiniau daearyddol neu ffisegol
  • ffiniau sy'n diffinio grwp
  • categorïau o bobl
  • nodweddion ei haelodau
  • endid sy'n uno pobl ar sail pwrpas cyffredin
  • hunaniaeth gymdeithasol e.e. ethnig, hoyw
  • cysylltiad â chrefydd
  • trefol/gwledig aelwyd/pentref/tref/dinas
  • gweithle
  • cymuned o ddiddordeb e.e. carfanau pwyso, clybiau
    chwaraeon, cymdeithasau drama neu gelf
  • rhith gymuned y Rhyngrwyd a seiberofod
  • cymuned o genhedloedd y Gymuned Ewropeaidd

3
Delweddau o Gymuned
  • Ar ddiwedd y 19eg ganrif, disgrifiodd Tonnies
    ddau fersiwn gwahanol o gymuned Gemeinschaft
    (cymuned) a Gesellschaft (cydgysylltiad).
  • Gemeinschaft cysylltiad/rhyngweithiad agos
    rhwng pobl dros gyfnod hir. Cymuned o bobl gyda
    rolau personol cysylltiedig cydlyniad
    cymdeithasol rhwng pobl. e.e. pentref cyn y
    chwyldro diwydiannol.
  • Gesellschaft cysylltiad â nifer mwy o bobl ond
    cysylltiad a rhyngweithiad llai agos. Cymuned o
    ddiddordeb gyda rolau llai personol. e.e.
    cymdeithas drefol
  • Credai Marx fod y gymuned draddodiadol yn perthyn
    i gyfnod cynharach o ddatblygiad economaidd a
    gollwyd am byth pan gyrhaeddodd cyfalafiaeth.
  • Yn ôl Weber, roedd Gemeinschaft yn golygu
    ymdeimlad cymunedol o berthyn neu gydlyniad, ac
    roedd Gesellschaft yn golygu "cymdeithas" o
    werthoedd ac amcanion a rennir.
  • Mae Durkheim yn cyfeirio at y ddeuoliaeth rhwng y
    gymdeithas draddodiadol ar un fodern. Credai ef
    fod diwydiannaeth wedi creu ymdeimlad o gymuned a
    rennir.
  • Ysgrifennodd Cohen fod cymunedau yn cael eu
    hadeiladu'n gymdeithasol ac ni ddylid eu
    hystyried yn naturiol h.y. nid yn uned
    ddaearyddol.

4
Cymunedau a chymdogaeth
  • Yn yr hen ddyddiau, roedd cysylltiad agos dros
    ben rhwng cymuned a lle. Oherwydd ei bod yn anodd
    symud o gwmpas, yr unig ddewis oedd gan bobl oedd
    cael hyd i'w cymuned yn y mannau lle roeddynt yn
    byw ac yn gweithio.
  • Wrth i drafnidiaeth a chyfryngau cyfathrebu
    wella, daeth newid mawr i'r cymunedau lleol. Mae
    mudo i mewn i ardaloedd yn aml wedi arwain at
    'breifatiaeth a cholli cymuned.
  • Mae diweithdra yn aml yn golygu bod pobl iau wedi
    methu, neu heb fod yn dymuno aros mewn cymunedau
    lleol traddodiadol.
  • Yn aml, mae'r gallu i siarad iaith leiafrifol,
    megis y Gymraeg, neu'r modd o ynganu iaith, yn
    diffinio ffiniau cymunedau rhanbarthol neu leol.
  • Yn aml, mae defnyddio ieithoedd lleiafrifol yn
    hanfodol i hunaniaeth cymuned ac i ddiogelu
    diwylliant.
  • Mae tystiolaeth bod yr arfer o roi cymorth i
    gymdogion ac ir teulu a rhwydweithiau cefnogi
    cymunedol yn dal yn arbennig o gryf mewn rhai
    ardaloedd arbennig.

5
Cymunedau a chenedl
  • Mae globaleiddio wedi arwain at gryfhaur
    wladwriaeth genedlaethol mae pobl yn dymuno
    cynnal eu hunaniaethau a'u diwylliant
    (cymunedol). (Giddens)
  • Mae globaleiddio wedi arwain at ddirywiad y
    wladwriaeth genedlaethol mae llai o anghydfod
    rhwng pobl ynghylch cenedl, mewnfudo a
    throsglwyddo diwylliant. (Hirst a Thompson)
  • Mae cyswllt anorfod rhwng symbolau megis baneri
    ac anthemau cenedlaethol a diwylliannau a
    chymunedau cenedlaethol.
  • Mae'n ymddangos bod datganoli yng Nghymru, yng
    Ngogledd Iwerddon ac yn yr Alban, wedi rhannu'r
    gymuned Brydeinig. Gallai hyn arwain at
    feithrin cymunedau cenedlaethol unigol i raddau
    uwch. Fodd bynnag, o fewn pob un o'r gwledydd nid
    oes diwylliant nac ysbryd cymuned homogenaidd.
  • Gellir gweld ymdeimlad o gymuned genedlaethol ar
    gyfnodau cythryblus neu drist. Fe unodd y Blitz
    bobl Llundain a'r holl wlad fe unodd y galaru
    cenedlaethol wedi marwolaeth Diana, tywysoges
    Cymru, yn 1997, filiynau o bobl ledled y wlad fel
    cymuned mewn tristwch.

6
Cymunedau byd-eang
  • Mae Globaleiddio yn golygu .. ymddangosiad o
    system economaidd a diwylliannol fyd-eang sydd,
    yn ôl y sôn, yn ymgorffori pobl y byd yn un
    gymdeithas fyd-eang. (Cochrane a Pain, 2000)
  • Mae'r datblygiadau yn y cyfryngau torfol yn
    galluogi pobl i ddod ar draws, a llyncu syniadau
    a phrofiadau newydd o ystod eang o ffynonellau
    traws-ddiwylliannol.
  • Er mwyn uchafu elw, mae corfforaethau trawswladol
    (CTau), yn dylanwadu ar batrymau chwaeth a
    threuliant drwy'r holl fyd weithiau mewn ffyrdd
    negyddol. Gall CTau ddylanwadu ar lywodraethau
    cenedlaethol a chymunedau drwy batrymau
    cyflogaeth. Wrth chwilio am y lleoliadau
    cynhyrchu rhataf a mwyaf effeithiol, gall CTau
    gadw cyflogau'n gymharol isel.
  • Mae globaleiddio diwylliant a nwyddau
    diwylliannol wedi arwain at arddulliau croesryw
    mewn ffasiwn, cerddoriaeth, treuliant a dulliau o
    fyw. Mae McDonaldeiddio, Hollywoodeiddio a
    Disneyeiddio wedi lledaenu ffurfiau o ddiwylliant
    Gorllewinol a allai ddinistrio diwylliannau
    lleol.
  • Fodd bynnag, gall diwylliant lifo i'r ddau
    gyfeiriad, a hefyd gall diwylliannau eraill
    ddylanwadu ar ddiwylliant y Gorllewin. Hefyd, nid
    yw pawb yn gaeth i nwyddau traul mae gan bobl
    ystod ehangach o ddewisiadau, dyna'r cyfan. Er
    bod pobl yn yfed Coke ac yn bwyta McDonalds neu'n
    gwisgo dillad gydag enw brand, nid yw hyn yn
    golygu o angenrheidrwydd y bydd diwylliannau a
    chymunedau lleol yn marw.

7
Dosbarth a chymuned
  • Fel arfer, mae dosbarth cymdeithasol yn cael ei
    ddiffinio gan alwedigaeth person, felly mae sôn
    am gymunedau dosbarth yn gamarweiniol. Mae pobl
    yn tueddu i gymdeithasoli â phobl eraill o statws
    tebyg mewn cymdeithas, ac felly, mae ffiniau
    dosbarth yn ymwneud yn fwy â theulu, addysg,
    patrymau defnyddwyr, dull o fyw, diwylliant a
    gwerthoedd.
  • Mae'r cynnydd mewn cyfoeth a safon byw hefyd wedi
    pylu'r rhaniadau yn y strwythur dosbarth. Mae
    cymdeithas fodern wedi arwain at fwy o
    unigoliaeth a 'phreifatiaeth', ac felly mae'r
    gymuned yn llai pwysig.
  • Gellir grwpio pobl mewn ystod gynyddol o
    gategorïau, yn ôl eu ethnigrwydd, rhywedd, man
    byw, crefydd a phatrymau treuliant. Fodd bynnag,
    mae gan gyfalafiaeth, gallu gwario a grym y
    defnyddwyr, lawer i'w wneud â pha gymuned y mae
    unigolion yn cael profiad ohoni.
  • Gall pobl gyfoethog ac addysgedig symud i
    gymdogaeth well a chysylltu â pha rwydwaith
    bynnag o bobl neu gymunedau y dymunant. Mae
    cymuned yn cael ei dewis ac nid ei rhoi.
  • Mae pobl dlawd, lai addysgedig yn llai abl i
    symud o gwmpas ac yn aml fe'u gorfodir i aros yn
    y cymunedau lle maent yn digwydd bod. Mae cymuned
    yn cael ei rhoi ac nid ei dewis.

8
Ethnigrwydd a chymuned
  • Mae dirywiad bywyd a diwylliant cymunedol wedi'i
    amlygu gan wleidyddion. Enoch Powell yn 1968 a
    Margaret Thatcher yn ei haraith ar 'lifeiriant'
    yn 1978.
  • Gall mewnfudo arwain at greu ffiniau
    cymdeithasol, a gall gwrthdaro ddigwydd oherwydd
    colli diwylliant ac adnoddau megis tai a
    chyflogaeth.
  • Yn aml, ystyrir lleiafrifoedd fel cymunedau ar
    wahân, gyda'u diwylliant unigryw eu hun.
  • Gall lliw croen neu nodweddion corfforol eraill,
    gwisg a hyd yn oed deiet, ddiffinio ffiniau grwp
    neu gymuned
  • Fodd bynnag, gall gwahaniaethu/hiliaeth gryfhau'r
    perthnasoedd mewn cymuned yn aml, a gall
    cymunedau traddodiadol gael eu ffurfio ymysg
    lleiafrifoedd.
  • Gall cymunedau gael eu ffurfio neu eu diffinio
    mewn nifer o ffyrdd- gwrthwynebiad i hiliaeth,
    cenedligrwydd, crefydd, iaith.
  • Mae tystiolaeth gynyddol, mewn cymdeithas
    amlddiwylliannol bod grwpiau ethnig yn ymrannu yn
    ôl dosbarth, traddodiad gwleidyddol a chrefyddol,
    cyflogaeth/diweithdra a chymdogaeth.

9
Cymuned rhywedd a rhywioldeb
  • Mae ffeministiaid yn ystyried bod rôl
    draddodiadol menywod yn y gymuned yn anacronistig
    yn y DU heddiw. Mae'n well gan lawer ohonynt y
    term chwaeroliaeth neu gymundod efallai am fod
    gan gymuned gysylltiadau â'r teulu a rôl gwraig
    ty, mam a gofalydd.
  • Mae cymdeithasau ffurfiol ac anffurfiol ar gyfer
    menywod yn bodoli, megis Sefydliad y Merched (y
    W.I.) a rhai codi arian, ond ai cymunedau yw'r
    rhain neu rwydweithiau o ddiddordeb?
  • Ydy gofal yn y gymuned yn golygu gofal gan
    fenywod, neu yr hyn a ddisgwylir gan fenywod?
  • Adeiladodd y menywod a oedd yn protestio ar Gomin
    Greenham, a'r grwpiau cefnogi o fenywod yn ystod
    streic y glowyr, ryw fath o gymuned a ddatblygodd
    lefelau uchel o gydlyniad a gwerthoedd a rennir.
  • Mae'r mudiad hoyw a lesbiaidd wedi croesawun
    frwd y syniad o gymuned wrth iddo alw am
    hunaniaeth a chydraddoldeb. Mewn ardaloedd
    trefol, mae cymdogaethau wedi'u harwahanu ar
    gyfer trigolion hoyw. Fodd bynnag, mae'r ffaith
    bod pobl heterorywiol yn mynychu clybiau hoyw,
    a'u bod yn cefnogi hawliau hoyw, yn ei gwneud yn
    anodd diffinio ffiniau'r gymuned hon.

10
Colli cymuned
  • Mae astudiaethau cymdeithasegol diweddar mewn
    ardaloedd trefol wedi amlygu ymdeimlad o hiraeth
    rhamantaidd am oes aur cymunedau. Mae'n gyffredin
    heddiw i glywed sut y byddai pawb yn helpu ei
    gilydd, mai ychydig iawn o droseddau a
    gyflawnwyd, ac y gallai pobl adael eu drysau
    ffrynt ar agor!
  • Mae astudiaethau cymuned yn dangos tystiolaeth
    anghyson. Yn ôl Janowitz, ychydig iawn o
    ryngweithiad a chydlyniad a welwyd mewn
    cymdogaethau. Fodd bynnag, cafodd Gans fod
    rhwydweithiau helpu a chefnogi carennydd yn
    para'n gryf mewn rhai cymunedau. Ysgrifennodd
    Castells nad yw pobl yn adeiladu eu hystyr mewn
    cymdeithasau lleol .. gan eu bod yn dethol eu
    perthnasoedd ar sail eu haffineddau. Efallai ei
    bod yn decach dweud bod rhwydweithiau cymunedol
    wedi lleihau ond bod pobl ymhell o fod ar eu pen
    eu hun.
  • Fodd bynnag, mae arwyddion cynyddol bod cymunedau
    yn chwalu. Gellir deall y syniad o ddiwylliant
    'dewis a chymysgu' yn hawdd ac, yn amlwg, gellir
    ei gymhwyso at y mater o hunaniaethau lluosog,
    hyblyg sy'n gorgyffwrdd ac at gysylltiadau
    cymunedol. (Lyon 1994)
  • Nodweddir cymdeithasau ôl-fodern gan
    'breifatiaeth' a dewis gan unigolion. Felly
    gellir dweud, mae'n debyg, bod cymunedau o
    hunaniaeth ac o ddiddordeb arbennig yn fwy
    tebygol o ffynnu na chymunedau cymdogaeth
    traddodiadol.

11
Cymunedau ar-lein a'r rhai nad ydynt yn
ddaearyddol.
  • Mae cymunedau newydd yn cael eu hadeiladu
    heddiw. Ni allwch eu gweld nhw, ac eithrio ar
    sgrin cyfrifiadur. Ni allwch ymweld â nhw, ac
    eithrio drwy eich bysellfwrdd. Eu priffyrdd yw
    gwifrau a ffibrau optegol mae eu hiaith yn
    gyfres o rifau un a sero. Mitch Kapor (1994)
  • Oherwydd tlodi, ni fydd llawer o bobl byth yn
    cael cyfle i gymryd rhan yn y cymunedau newydd
    hyn.
  • Nid yw cymdogaeth a chenedligrwydd yn bwysig
    bellach o fewn y cymunedau newydd hyn. Yr hyn
    sy'n cyfrif yw gyda phwy y mae'r unigolyn yn
    rhannu diddordebau cyffredin, ac nid gofod
    cyffredin.
  • Mae'r Rhyngrwyd yn galluogir rhai sydd fel arfer
    yn cael eu gwahardd o rwydweithiau cymunedol i
    gydberthyn a chyfathrebu mewn rhith gymuned o
    unigolion neu grwpiau o'r un meddwl.
  • Mae Wellman (1999) yn dadlau bod y Rhyngrwyd yn
    galluogi datblygu cymunedau o ddiddordeb, sydd
    wedi'u hadeiladu yn unigryw ar berthnasoedd
    arbenigol.
  • Mae rheolaeth gymdeithasol yn nodwedd gyffredinol
    ym mhob cymuned ddaearol. Mae'r ffaith bod y
    cyfranogwyr yn anweladwy ar rhwydweithiau
    ar-lein bron yn anhysbys ar hyn o bryd yn golygu
    bod rheolaeth gymdeithasol yn bwnc problemus mewn
    rhith gymunedau.
Write a Comment
User Comments (0)
About PowerShow.com