Title: Cyfrifoldebau Cadeirydd
1Cyfrifoldebau Cadeirydd
- Mae pobl yn gwbl ryng-ddibynnol. Felly y bu
pethau erioed. Maer unigolyn gerwin - y
Maverick, y Lone Ranger, Hercules oll yn
fythau. Rydyn nin ychwanegu gwerth at ein gilydd
trwy ryngweithio ac fe amlygir hynny trwy
gyfathrebu. - Mae cyfathrebu yn rhyddhau egni cudd, talent
cudd, potensial cudd. Ychydig o bethau syn fwy
grymus. -
- (Awdur Anhysbys)
2Pwy fydd yn elwa?
- Darpar Gadeiryddion ac Is Gadeiryddion cyrff
llywodraethol pob ysgol.
3Mae gan Gorff Llywodraethol
- Gyfrifoldeb ar y Cyd
- Rhaid iddynt weithio fel grwp
- Mae un aelod yn cymryd rôl arweiniol -
- Y CADEIRYDD
4 Pwy all fod yn gadeirydd? Unrhyw
lywodraethwr ac eithrio
- Pennaeth
- Athro/Athrawes Lywodraethwr
- Person a gyflogir yn yr ysgol
- Disgybl cofrestredig yn yr ysgol
5Ethol Cadeirydd
- Yng Nghymru bob blwyddyn
- Fel arfer yn ystod cyfarfod yr Hydref
- Etholir gan bob llywodraethwr
6Grymoedd
- Nid oes gan y cadeirydd unrhyw rymoedd arbennig.
- Ac eithrio, wrth gwrs, mewn argyfwng.
7Grymoedd cadeirydd mewn argyfwng.
- Dim ond ar faterion brys y gall y cadeirydd
weithredu ar ran y Corff Llywodraethol, pan nad
oes amser hyd yn oed i gynnull cyfarfod arbennig
a phan fod modd dirprwyor mater dan sylw yn
gyfreithlon. - Byddai argyfwng yn sefyllfa ble y byddai oedi yn
gwneud drwg mawr ir ysgol, athro/athrawes,
disgybl neu riant. - Byddai ef neu hi maes o law yn cyflwyno adroddiad
ar y camau a gymerwyd ir corff llywodraethol.
8Pleidleisio
- Mae llywodraethwyr yn gwneud penderfyniadau trwy
gonsensws a phleidlais. - Gallant benderfynu a oes angen cynnal pleidlais
gudd ai peidio. - AC EITHRIO wrth ethol cadeirydd rhaid cael
pleidlais gudd. - Pan for bleidlais yn gyfartal ar unrhyw fater,
mae gan y cadeirydd ail bleidlais, neu bleidlais
fwrw.
9Pleidlais Fwrwr Cadeirydd
- Mae gan Gadeirydd y Corff Llywodraethol neu
unrhyw un or is-bwyllgorau bleidlais fwrw. - (ac eithrio yng nghyfarfod cyntaf y
flwyddyn) - Y confensiwn yw y bydd y cadeirydd yn pleidleisio
dros y status quo. - (Mae hynnyn gofalu nad yw newidiadau ond yn
cael eu gwneud pan fod mwyafrif pendant o blaid
newid) - Pan fod gwelliannau i gynnig yn cael eu hystyried
a phan fo nifer y pleidleisiau ar y gwelliant yn
gyfartal, dylid defnyddior bleidlais fwrw er
mwyn cadwr cynnig gwreiddiol, ond nid yw hynnyn
orfodol! - (Pleidleisio yn erbyn y cynnig gwreiddiol
gall hynny arwain at sefyllfa ryfedd ble y maer
cadeirydd yn defnyddio ei bleidlais gyntaf un
ffordd ar ffordd arall wrth ddefnyddior
bleidlais fwrw.) - Mae hynnyn iawn gan nad ywn fwriad ir
bleidlais fwrw roi mwy o rym neu ddylanwad ir
cadeirydd. -
10Diswyddor Cadeirydd
- Gellir diswyddor Cadeirydd trwy benderfyniad gan
y Corff Llywodraethol. - Rhaid i benderfyniad or fath gael ei gadarnhau
mewn ail gyfarfod iw gynnal heb fod yn llai nac
14 diwrnod ar ôl y cyfarfod cyntaf. - Rhaid ir mater fod yn eitem ar agendar ddau
gyfarfod. - Rhaid ir cynigydd gynnig rhesymau ac mae gan y
cadeirydd hawl i ymateb.
11Beth yw rôl cadeirydd effeithiol ar gorff
llywodraethol?
12Rôl y Cadeirydd yw
- Gofalu fod gwaith y corff llywodraethol yn cael
ei gyflawni mewn ffordd gyfreithlon - Gofalu fod cyfarfodydd yn cael eu rhedeg yn
effeithiol - Helpur corff llywodraethol i weithio fel tîm
- Gweithion effeithiol gydar Pennaeth i feithrin
perthynas gadarnhaol - Gofalu fod y corff llywodraethol yn gweithredu
fel seinfwrdd ir pennaeth ac yn cynnig cyfeiriad
strategol - Cyflawni dyletswyddau a ddirprwyir gan y corff
llywodraethol
13- Defnyddio amser yn effeithiol, eu hamser eu
hunain - ac amser pobl eraill
- Cyflawni rolau penodol o dan, er enghraifft,
rheoli perfformiad - Ei fod/bod wdi cytuno agenda bwrpasol wedi trafod
gydar pennaeth ar clerc. - Ei fod/bod wedi darllen y dogfennau perthnasol.
- Ei fod/bod yn gwybod pryd i annog y drafodaeth
neu pryd i ddod â hi i ben. - Gwrandawydd da.
- Gall grynhoi trafodaeth mewn ffordd syn arwain
at benderfyniad priodol.
14Dylai fod gan gadeirydd effeithiol
- Weledigaeth glir ar gyfer yr ysgol syn cael ei
rhannu gan y corff llywodraethol ar staff, ac yn
enwedig fellyr pennaeth - Ddealltwriaeth dda or ysgol ai lle yn y gymuned
leol - Gallu siarad ar ran y corff llywodraethol a
chyflwyno ei safbwyntiau yn deg a chywir. - Bod yn ddi-duedd a chadw cydbwysedd rhwng rhoi
arweiniad a gofalu fod pob barn yn cael ei
chlywed - Rheoli cyfarfodydd yn dda er mwyn sicrhau fod
penderfyniadau teg yn cael eu gwneud - Bod yn gyswllt allweddol rhwng y pennaeth ar
corff llywodraethol - Cadw trosolwg o weithgareddaur corff
llywodraethol a dirprwyo i aelodau eraill pan fo
hynnyn briodol.
15MAER CADEIRYDD
- Yn arwain cyfarfodydd.
- Yn cydlynu gwaith y corff llywodraethol
- Yn gofalu fod y corff llywodraethol yn cyflawni
ei ddyletswyddau yn effeithiol - Yn gynrychiolydd cyhoeddus ir corff llywodraethol
16Mae Gwaith y Cadeirydd
- Yn heriol ond yn rhoi boddhad
- Yn cymryd amser.
- Gall fod yn feichus.
- Yn golygu llawer mwy na mynd i gyfarfodydd.
- Mae Llywodraeth y Cynulliad Cenedlaethol a
Llywodraeth Ganol erbyn hyn yn cyfathrebun
uniongyrchol gyda chadeiryddion ar y rhan fwyaf o
bethau (ond nid ar bopeth). - Mae llawer o wybodaeth iw threulio.
- Arweinyddiaeth a gweledigaeth ar gyfer y Corff
Llywodraethol - Cyflawnir weledigaeth.
- Partner mewn arweinyddiaeth gydar pennaeth.
17Eitemau cyffredin ar gyfer yr Agenda
- Ymddiheuriadau
- Cofnodion y cyfarfod diwethaf
- Cofnodion cyfarfodydd pwyllgorau a dylai is
grwpiau eraill ag awdurdod dirprwyedig gyflwyno
adroddiadau ysgrifenedig ir Corff Llywodraethol
llawn cyn gynted ag y bo modd. - Datganiadau o ddiddordeb dylai unrhyw
lywodraethwr a chanddo/chanddi ddiddordeb
gwrthdrawiadol ar unrhyw eitem ddatgan hynny a
gall y Corff Llywodraethol benderfynu os oes
angen iddynt adael y cyfarfod - Datgan diddordebau busnes dylid eu diweddaru
h.y. llywodraethwyr newydd yn ystod y flwyddyn
ond dylid eu hadolygun flynyddol ar gyfer pob
aelod. - Adroddiadau ar unrhyw gamau a gymerwyd gan y
cadeirydd - Adroddiad y Pennaeth
- Hyfforddiant Llywodraethwyr mae gan lawer o
gyrff llywodraethol lywodraethwr cyswllt dyma eu
cyfle i adolygu a myfyrio ar eu hanghenion - Materion U.F.A.
18Y Cyfarfod
- Nid oes y fath beth ag un fformat cywir ar gyfer
cyfarfod. - Yr hanfodion yw trafodaeth bwrpasol yn yr amser
sydd ar gael. - Yn arwain at benderfyniadau eglur, democrataidd
a synhwyrol. - Grwp o bobl syn fodlon ar y diwedd eu bod wedi
cael cyfle llawn ar anogaeth i gymryd rhan.
19Arwain a Datblygu
- Gofalu fod pawb yn cael eu trin yn deg.
- Cynnig anogaeth i bobl syn brin o hyder.
- Ffrwyno pobl allai gymryd drosodd.
- Gofalu fod y gwaith yn cael ei wneud yn
effeithlon. - Gofalu fod digon o amser yn cael ei neilltuo ar
gyfer y materion pwysicaf. - Gofalu fod cyfarfodydd yn cael eu cynnal yn unol
âr rheolau ar protocolau.
20Cyfaill Beirniadol - Cynhaliaeth
Ymrwymiad a theyrngarwch
Cyfrinachedd
Deall y cyfrifoldeb colectif
Eiriolaeth
Y gymuned ehangach
Cynnal yr Ysgol
Gwrando
Canmol staff, disgyblion, rhieni, am eu
hymdrechion au cyflawniadau
Gwneud amser i ymweld âr ysgol
Datblygu perthnasoedd
21Monitro Adolygu Perfformiad yr Ysgol
- Sut mae ein hysgol yn gwneud ar hyn o bryd?
- A yw rhai rhannau or ysgol yn fwy effeithiol nac
eraill? - A yw rhai grwpiau o ddisgyblion yn gwneud yn well
nac eraill? - Sut mae cyflawniadaur ysgol ar hyn o bryd yn
cymharu âi chyflawniadau yn y gorffennol? - Sut mae perfformiad yr ysgol yn cymharu â
pherfformiad ysgolion eraill?
22Rhestr Wirio ar gyfer Cadeiryddion
- Cytuno gydar clerc ar pennaeth pa eitemau iw
rhoi ar yr agenda cyn y cyfarfod. - Hysbysiad y cyfarfod
- Cyflwyno llywodraethwyr newydd neu sylwedyddion
fel aelodau o staff yr ysgol - Gweithio gydar clerc yn y cyfarfod i fynd drwyr
eitemau ar yr agenda. - Cadwr agenda yn berthnasol, hylaw a nid yn rhy
hir. - Cadwr cyfarfodydd i fynd dylair trafodaethau
fod yn berthnasol ni ddylai unrhyw un siarad yn
rhy aml nac yn rhy hir a dylid mynd drwyr
agenda mewn da bryd. - Gosod cywair cynhwysol gofalu fod pawb yn cael
cyfle i siarad. - Peidio goddef iaith neu ymddygiad syn
rhywiaethol, hiliol neun rhagfarnllyd mewn
unrhyw ffordd arall. - Gofalu nad ywr trafodaethaun mynd yn llawn
jargon. - Gofalu fod cofnodion y cyfarfod yn eglur a
chryno, a bod cyfrifoldebau gweithredur personau
cyfrifol yn cael eu nodi
23Y Cadeirydd
- Mae cadeiryddion da werth eu pwysau mewn aur.